Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2018

Amser: 14.01 - 16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4752


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Vikki Howells AC

Lee Waters AC

Tystion:

Lynne Hamilton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Sian Harrop-Griffiths, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Tracy Myhill, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Bob Chadwick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas CBE - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mark Jeffs

Dave Thomas

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan.

 

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Nodwyd y papurau.

2.2 Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch yr ymrwymiad y cytunwyd arno y byddent yn cyhoeddi manylion y cymhorthdal ​​fesul teithiwr bob blwyddyn ochr yn ochr â niferoedd y teithwyr.

</AI2>

<AI3>

2.1   Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Steve Ham, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre (28 Mehefin 2018)

</AI3>

<AI4>

2.2   Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Gorffennaf 2018)

</AI4>

<AI5>

3       Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

</AI5>

<AI6>

4       Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth 2

4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Tracy Myhill, Prif Weithredwr;

Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Strategaeth; a Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

4.2 Cytunodd Tracy Myhill i:

·         siarad â Chadeirydd y Bwrdd ynghylch y pecyn taliadau a gafodd y cyn Brif Weithredwr pan adawodd y Bwrdd Iechyd a rhoi gwybod i'r Cadeirydd am y drafodaeth hon; a

·         rhannu rhai o gynlluniau digidol y Bwrdd Iechyd â'r Pwyllgor.

 

</AI6>

<AI7>

5       Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth 3

5.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, a Bob Chadwick, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

5.2 Cytunodd Len Richards i gadarnhau a ddarparodd y Bwrdd Iechyd ddatganiad o effaith y diffoddiad ym mis Ionawr 2018 ac i roi gwybod i'r Pwyllgor am hyn mewn nodyn.

</AI7>

<AI8>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

7       Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>